MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun: Pennaeth Adran
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Disgrifiad
DIRPRWY BENNAETH
L16- L20
Llawn Amser - Parhaol
Ar gyfer Ionawr 2024 neu chyn gynted â phosibl
Ysgol Morgan Llwyd
'Ym mhob llafur y mae elw'
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth yr ysgol.
Mae'r ysgol ar daith i fod yn ysgol ragorol sydd yn darparu addysg o'r radd flaenaf ar gyfer pob disgybl. Rydym yn chwilio am berson i gyd-weithio'n effeithiol gyda phob rhanddeiliad i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a symud ymlaen i ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus.
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy'n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a'i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o'i gymdeithas.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd:
• â sgiliau arwain cryf, cadarn, brwdfrydig a llwyddiannus gyda phrofiad o gyflwyno gwelliannau ysgol gyfan
• â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau arweinyddol
• yn gallu ysgogi ac ysbrydoli pob aelod o staff yn yr ysgol
• â phrofiad o sicrhau atebolrwydd ar bob lefel
• yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
• wedi ymroi i'w datblygiad personol eu hunain fel arweinydd y dyfodol.
• yn wybodus am ddatblygiadau cwricwlaidd gan gynnwys strategaethau i gryfhau safonau.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Bydd union gyfrifoldebau yn cael eu trafod gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd ac i drefnu ymweliad, neu am wybodaeth bellach cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r ysgol.
I ymgeisio: llenwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we (Swyddi Gwag Ysgol Morgan Llwyd)