MANYLION
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng

Cyngor Sir Powys
Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r corff llywodraethu am benodi gweithiwr proffesiynol ysgogol, profiadol, brwdfrydig a rhagorol i weithio gyda'r Pennaeth drwy gymryd rôl arweiniol wrth reoli a datblygu ein Hysgol, ochr yn ochr ag aelodau'r Uwch Dîm Arwain.

Rhaid i'n Dirprwy Bennaeth newydd rannu ein hymrwymiad i ddisgwyliadau uchel a chynorthwyo'r Pennaeth i arwain ein tîm deinamig wrth yrru ein hysgol yn ei blaen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Yn arweinydd arloesol, sy'n gallu ymgysylltu â diwygio'r cwricwlwm i gynllunio cwricwlwm i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
  • Gydag hanes profedig o arwain mentrau i godi cyrhaeddiad.
  • Yn ymrwymedig i wella ysgolion a meddu ar brofiad o arwain a rheoli.
  • Yn arddangos a hyrwyddo gwerthoedd a thueddiadau'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
  • Yn ymarferwr dosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad a bod ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo.
  • Gyda phrofiad eang o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol ac emosiynol/ymddygiadol.
  • Yn mynd ati i hyrwyddo llesiant, buddion a diogelwch pob plentyn.
  • Yn gallu cynnal, hyrwyddo a datblygu ethos Cristnogol yr ysgol.
  • Yn dangos ymrwymiad personol i ddysgwyr gydol oes a datblygiad proffesiynol.
  • Yn cydweithio â thîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach, gan gynnwys Esgobaeth Llanelwy.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad manylach gan Gyngor Sir Powys gan y DBS a bydd angen dau eirda cyn y gall ddechrau yn y swydd.

Estynnwn wahoddiad cynnes i bob darpar ymgeisydd i ymweld â'r ysgol. Cysylltwch â'r Brifathrawes, Mrs Lorna Tuffin, ar 01938 538 660 neu drwy e-bost head@welshpool.powys.sch.uk

Mae angen Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon