MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Disgrifiad

Ysgol Morgan Llwyd

Pennaeth: Miss Catrin Pritchard

Gofalwr Lefel 2

Gradd04 pwynt 4-5

Oriau: 37 awr yr wythnos

£21,189 - £21,575

Gorchudd salwch dros dro am 6 mis.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Gofalwr yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn ddymunol ond ddim yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar owenr350@hwbcymru.net 01978 315050.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwewch yn dda a'i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes drwy e-bost owenr350@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)