MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2347
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
18 Rhagfyr 2026
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
1.0 FTE
Dewch i ymuno â'n tîm
Athro/Athrawes Blwyddyn 3 a 4 (Cyflenwad Mamolaeth)
Ysgol Gymunedol Cae'r Felin
(O dan Ffederasiwn Ysgol Brynsaron ac Ysgol Gymunedol Cae'r Felin)
Ionawr 2026 - Rhagfyr 2026
Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes ymroddedig ac egnïol i ymuno â'n tîm cefnogol a blaengar i ddysgu Blwyddyn 3 a 4. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau addysgu rhagorol, yn gyfathrebwr effeithiol ac yn gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm.
Rydym yn disgwyl i'r ymgeisydd lwyddiannus fod yn frwdfrydig ac yn greadigol wrth gyflwyno'r cwricwlwm, gan gynnal safonau uchel ar gyfer ein disgyblion. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn, ac mae disgwyl i staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydym yn cynnig:
- Disgyblion brwdfrydig ac ymroddedig.
- Cydweithwyr croesawgar a chefnogol.
- Arweinyddiaeth ymroddedig ac egnïol.
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Am fanylion pellach cysylltwch gyda daviesr1852@hwbcymru.net
Dyddiad cau: 10/10/25 (canol dydd) .
Cyfweliadau: 20/10/25
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog
Mae'n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Disgrifiad Swydd:
006258.pdf - 201KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
20 Hydref 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/10/2025, 12:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.