MANYLION
- Pwnc: Pennaeth Adran
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Medi, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Pennaeth / Dros Dro Pennaeth (Ysgol Penygloddfa)
Swydd-ddisgrifiad
Mae ysgol gynradd gymunedol Penygloddfa wedi'i lleoli ar ochr ogleddol y Drenewydd, mewn tref farchnad fechan yng ngogledd sir fawr wledig Powys. Yr ysgol yw un o'r ysgolion mwyaf sy'n gwasanaethu'r dref. Mae'r ysgol wedi'i hamgylchynu gan gefn gwlad godidog Canolbarth Cymru ac yn mwynhau manteision lleoliad gwledig ac mae'r ysgol yn rhan hanfodol o gymuned y dref leol.
Mae'r llywodraethwyr am benodi arweinydd uchel ei gymhelliad ac ysbrydoledig i barhau i wthio am safonau uchel ac arwain datblygiad yr ysgol i'r dyfodol.
Addysgir plant Penygloddfa mewn amgylchedd cyfeillgar a theuluol. Rydyn ni'n credu y dylai plant gael eu cyffroi a'u herio gan y gwaith y maen nhw'n eu gwneud ac anelu i sicrhau eu bod nhw'n hapus, hyderus a chyfrifol yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Iaith yr ysgol yw Saesneg gyda Chymraeg yn cael ei dysgu fel ail-iaith.
Byddai'r ymgeisydd delfrydol yn Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu weithiwr addysg broffesiynol fedrus sy'n gallu arddangos sgiliau rheoli, arwain a rhyngbersonol rhagorol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau'r swydd ym mis Medi 2023 neu Ionawr 2024
Rydyn ni'n edrych am:
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig i chi:
Hoffwn estyn croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol. I wneud hynny - neu os hoffech gael sgwrs am y cyfle hwn - gallwch gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01686 626715 neu anfonwch e-bost atom yn: office@penygloddfa.powys.sch.uk
Mae'n ofynnol bod Penaethiaid newydd yng Nghymru yn meddu ar gymhwyster CPCP, oni bai bod yr ymgeisydd wedi bod yn gweithio fel pennaeth cyn 2004. Fodd bynnag, ystyrir ymgeiswyr sy'n aros am asesiad o'r CPCP.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Hayley Hughes
Ffon: 07769336645
E-bost: hayleyhughes@btinternet.com

- Unigolyn uchel ei gymhelliad, sy'n gallu modelu, ysgogi ac adnabod rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.
- Arweinydd cryf sy'n gallu mynd a'n hysgol i'r lefel nesaf trwy weithio gyda llywodraethwyr, staff a rhieni.
- Cyfathrebwr rhagorol sy'n hollol atebol i'r llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a rhieni.
- Chwaraewr tîm ysbrydoledig a fydd yn maethu perthnasau cryf gyda'r awdurdod lleol a'r gymuned ehangach, ac yn arwain rhaglenni addysg arloesol.
- Pennaeth sy'n gallu dangos gwybodaeth dda o'r system addysg Gymraeg - byddai rhai sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ddymunol, er nid yn hanfodol.
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig i chi:
- Swydd ragorol fel pennaeth sydd ddim yn cynnwys ymrwymiad i ddysgu yn y dosbarth.
- Plant hapus, sy'n ymddwyn yn dda.
- Staff ymroddedig ac sy'n meddwl mewn dull arloesol.
- Cysylltiadau cymunedol bywiog a Chymdeithas Athrawon Rhieni cryf iawn.
- Corff llywodraethol cefnogol sy'n gweithio'n galed.