MANYLION
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth (Ysgol Cefnllys)

Cyngor Sir Powys
Pennaeth (Ysgol Cefnllys)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Corff Llywodraethu'r Ysgol Gynradd lwyddiannus hon am benodi Pennaeth arloesol, ysbrydoledig a brwdfrydig sydd:
  • yn arweinydd effeithiol iawn, gyda thystiolaeth o arbenigedd mewn codi safonau ac o ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol
  • yn effeithiol yn datblygu staff ar bob lefel ac yn gallu hyrwyddo'r ysgol fel sefydliad dysgu
  • â phrofiad o rannu arferion gorau ar draws y sector
  • â gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach a chynnal ein hethos o anogaeth
  • a phrofiad o reoli amryw gyllidebau yn effeithiol
  • â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad disgyblion ac yn lllwyddiannus yn rheoli ymddygiad disgyblion yn effeithiol
  • yn annog disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain a sicrhau bod llais y disgybl yn gwneud cyfraniad cryf i arweiniad strategol yr ysgol
  • â phrofiad o reoli canolfannau arbenigol anghenion dysgu ychwanegol
  • â phrofiad o ddefnyddio dull anogaeth i ddatblygu llesiant disgyblion
  • yn arwain ac ysgogi disgyblion, staff a llywodraethwyr i greu diwylliant effeithiol o ddysgu gydol oes a pharhau i ddatblygu cwricwlwm newydd
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel, gyda'n plant, rhieni, llywodraethwyr a staff, a gallu creu partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach
  • meddu ar ddealltwriaeth o gefnogi dysgwyr a theuluoedd gyda Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Gallwn ni gynnig staff a chorff llywodraethu sy'n frwdfrydig a chydwybodol sy'n awyddus i fynd a'r ysgol yn ei blaen i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r canlyniadau y maen nhw'n gallu eu cyflawni.

Rydym yn rhoi cyfle i chi ymweld â'n hysgol. Cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr, James Williams drwy anfon e-bost i drefnu ymweliad: WilliamsJ2382@Cefnllys.powys.sch.uk