MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teacher's Pay Scale
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher (Maternity Cover) - Griffithstown Primary School

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teacher's Pay Scale

I ddechrau ym mis Medi.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae un swydd wag ar gyfer Athrawes Dros Dro am ddau dymor, yn y lle cyntaf yn Ysgol Gynradd Griffithstown, sef ysgol sydd wrthi'n gwella'n barhaus ym Mwrdeistref Torfaen.
Rydym yn chwilio am un athro rhagorol sy'n gallu sicrhau cyfleoedd ysgogol, cyffrous a heriol i alluogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn rhan o dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy'n ymdrechu i roi'r dechrau gorau i blant Griffithstown ar eu siwrnai addysg.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Mr N Blackburn, Pennaeth, 07950 781486, head.griffithstownprimary@torfaen.gov.uk
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd..
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad llunio rhestr fer: 15/05/25
Dyddiad yn yr ystafell ddosbarth: 10/05/25
Dyddiad y cyfweliad: 20/05/25