MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Grade 3 £13.05 per hour
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylwyr Arholiadau Achlysurol - Ysgol Gorllewin Mynwy
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 3 £13.05 per hour
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Rydym yn dymuno penodi Goruchwylwyr Arholiadau llawn brwdfrydedd, uchel eu cymhelliant a threfnus iawn. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion yn ystod cyfnodau arholiadau a bydd angen i chi fod yn hyblyg i fynychu'n achlysurol o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 4pm.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Jess Bishop, Rheolwr Arholiadau a Data, ar 01495 767430.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd..
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.