MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 5 £27,269 to £30,060 Pro Rata
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 5 £27,269 to £30,060 Pro Rata
Annwyl Ddarpar Ymgeisydd,Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd Swyddog Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Abersychan. Mae hon yn swydd bwysig yn ein hysgol, a'r prif gyfrifoldeb fydd cydlynu'r ddarpariaeth, cynnal prosesau gweinyddol a goruchwylio a chefnogi myfyrwyr sydd mewn Gwaharddiadau Mewnol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn drefnus iawn ac yn teimlo'n bositif wrth feddwl am weithio gyda myfyrwyr mewn cyd-destun heriol.
Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd 11-16 oed sy'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn gyflawni eu potensial. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 741 o fyfyrwyr, 48 o athrawon a 46 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae gan 32% o fyfyrwyr hawl i brydau ysgol am ddim.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ac ystod eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych sy'n gefnogol iawn ac yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysg orau bosibl. Mae'r ysgol wedi cael canmoliaeth eang am wneud gwelliannau sylweddol wrth reoli ymddygiad, ac mae ein ffocws ar sicrhau'r safonau uchaf trwy ddarpariaeth ragorol.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn neilltuol sydd â'r egni, yr ysgogiad, y gwydnwch a'r ymrwymiad i ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol hon ar ein taith i wella'r ysgol. Os ydych chi'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig wrth wireddu uchelgeisiau yr ysgol, os oes gennych gred ddi-baid y gall pob myfyriwr gyflawni, waeth beth fo'u cefndir a'u gallu, yna byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â keri.powell@abersychanschool.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon neu i drefnu ymweliad â'r ysgol. Rhaid llenwi'r ffurflen gais trwy blatfform yr Awdurdod Lleol sydd wedi'i chysylltu â'r hysbyseb swydd ar eteach.
Tynnu'r rhestr fer: 2 Mai 2025 Cyfweliad: 7 Mai 2025 Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl
Yn gywir iawn, Rhodri Thomas, Pennaeth. Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.