MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant

Torfaen Local Authority

Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4

Swydd Barhaol o fis Medi 2025
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn ysgol groesawgar a llwyddiannus.
Mae gennym gyfle cyffrous i gynorthwyydd addysgu ymuno â'n tîm yn barhaol o fis Medi 2025 ymlaen.
Rydyn ni'n dymuno penodi cynorthwyydd addysgu â'r cymwysterau priodol sydd:
  • Â phrofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol/ymddygiad
  • Yn dangos eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd greadigol, gadarnhaol a hyblyg, yn rhan o dîm yr ystafell ddosbarth
  • Yn cyfrannu â pharodrwydd at redeg y dosbarth o ddydd i ddydd (e.e. trwy gymryd rhan mewn dyletswyddau awr ginio, goruchwylio amseroedd chwarae, croesawu plant wrth y giât, rhyddhau plant ar ddiwedd y dydd ayb.)
  • Ag awydd i gefnogi ethos Catholig a Ffydd yr Ysgol
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Iau 1 Mai 2025 Cyfweliadau: Dydd Mercher 7 Mai 2025