MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Hourly rate: £12.65 - £12.84 | Grade 2
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Hourly rate: £12.65 - £12.84 | Grade 2
7.5 awr yr wythnos / 38 wythnos y flwyddynHours: 11:45 to 13:15, Monday-Friday
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Rydym yn chwilio am ddau aelod o staff i ymuno a'r tim sy'n gyfrifol am ofalu am ddysgwyr yn Ysgol Panteg yn ystod eu hamser cinio. Rydym yn chwilio am bobl brwdrfrydig a charedig i ofalu am ein dysgwyr gan sicrhau eu diogelwch mewn awyrgylch cyfeillgar a Chymreig. Bydd y rôl yn dechrau cyn gynted ag sy'n bosib.
Am fwy o wybodaeth am y swydd hon cysylltwch a'r Pennaeth, Dr. Matthew James Williamson-Dicken, trwy alwad ffôn neu drwy ebostio: head.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.