MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Addysg Grefyddol
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Astudiaethau Crefyddol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Ffôn: 01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

Pennaeth Astudiaethau Crefyddol

Y Brif Raddfa Gyflog/y Raddfa Gyflog Uwch gyda CAD

Dyddiad dechrau: Ionawr 2024

Diolch am eich diddordeb yn y swydd Pennaeth Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Clywedog. Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol ac uchelgeisiol sydd yn unigolyn strategol, trefnus a brwdfrydig sydd yn mwynhau arwain a datblygu pobl yn eu gwaith.

- A oes gennych chi'r arbenigedd i gyfrannu at ein hysgol sy'n gwella'n gyson?

- A oes gennych ymdeimlad clir o bwrpas a'r dyhead i gyrraedd y safonau uchaf posib?

- A ydych chi'n frwd am eich pwnc ac yn awyddus i gefnogi myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial?

Os felly, hoffem glywed gennych chi a byddwch chi'n elwa o:

- Ymuno â thîm proffesiynol gwerthfawr.

- Derbyn cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol.

- Bod yn rhan o ysgol uchelgeisiol.

- Defnydd o dechnolegau newydd.

Mae manylion pellach am y swydd, y ffurflen gais a'r swydd-ddisgrifiad ar gael ar wefan yr ysgol www.clywedog.org

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam neu e-bostiwch vacancies@clywedog.org .

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad Cau: 9am Dydd Llun 2 Hydref 2023

Dyddiad Cyfweld: wythnos yn dechrau 2 Hydref 2023