MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 x 2

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 x 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra

Bodhyfryd

Wrecsam

LL12 7AZ

01978 315120

Pennaeth: Mrs Lisa Roberts

E-bost: Headteacher@alexandra-pri.wrexham.sch.uk

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 x 2

G03: £12,473 - £12,699 y flwyddyn

27 awr yr wythnos (5 diwrnod)

Yn ofynnol o 1 Medi 2023

Dros dro tan 31 Mawrth 2024 i ddechrau gyda phosibilrwydd cryf o gael ei ymestyn.

Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi 2 Gynorthwyydd Dysgu hyblyg, brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein hysgol fendigedig.

Bydd yr aelod o staff a benodir yn gweithio fel rhan o dîm mawr, o fewn ein Darpariaethau Arbenigol ag Adnoddau, yn cefnogi plant sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ADY yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Roberts (pennaeth) yn yr ysgol.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithogac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 9am, Dydd Iau Mehefin 29ain