MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Chwilog, Pwllheli,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Ysgol Chwilog

Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Ysgol Chwilog

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib
Cymhorthydd Cyffredinol Cegin Ysgol Chwilog
I baratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 12.5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol

GS1 pwynt 2 £10.59 yr awr / per hour (£8.86 wedi ei gyfartalu- averaged)

Cyflog wythnosol / Weekly Salary - £110.75

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein. / The Council will request a Criminal Records Bureau disclosure for the successful applicant and you will receive an email from 'noreply@employmentcheck.org.uk' to complete a DBS form online.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person / The applicant will be expected to reach the linguistic level noted as one of the essential skills in the Person Specification.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal / We welcome applications in Welsh and English and applications will be treated completely equally.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Dyddiad Cau / Closing Date: 20/07/2023

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i / Application forms from and to be returned to: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

Nodweddion personol
Hanfodol
To be able to work as part of a team (School team and kitchen team)

Dymunol
Self motivated, happy disposition.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Basic food hygiene or agreement to pass the course within 3 months of appointment

Dymunol
Training in food production or food service skills.

Training in Health and Safety, e.g. moving and handling or first aid.

Training in selling skills.

Profiad perthnasol
Hanfodol
-

Dymunol
Experience of being employed in a food production environment

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
-

Dymunol
Good interpersonal skills

Good communication skills

Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.

Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.

Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

•I gynorthwyo'r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd syml, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra'r gegin.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer

Prif ddyletswyddau
•Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal neu'r Dirpwy.

•Yn cynorthwyo mewn paratoi a gweini'r bwyd gan gynnwys coginio syml.

•Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.

•Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau'r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.

•Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio dodrefn yn y ffreutur.

•Lle na bo Cogydd Cynorthwyol bydd y Cymhorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod absenoldeb y Cogydd ond am y tâl priodol.

•Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.

•Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.

•Yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.

•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

•Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Amgylchiadau arbennig
•Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i'r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.