MANYLION
  • Lleoliad: Llandysul,
  • Testun: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd T Llew Jones

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
'Llwybr Llwyddiant, Lles a Llawenydd'

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd T Llew Jones yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar fydd yn gyfrifol am gynnal a chodi safonau disgyblion, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus yr ysgol hapus hon. Rydym yn chwilio am athro/athrawes ragorol i addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae cymuned yr ysgol yn un ofalgar, egnïol a chynhwysol sydd yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, profiadol, blaengar ac ysbrydoledig syn meddu ar sgiliau rhagorol i'r swydd dysgu hon. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio'n agos gydag athrawon eraill ar draws yr Ysgol i ddatblygu profiadau dysgu sy'n ateb anghenion lles ac addysgol y disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â gwybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru a chynnydd disgyblion. Mi fydd y gallu i fod yn hyblyg ac i weithio'n effeithiol fel rhan o dm ynghyd â'r parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn bwysig. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu 'r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ebost: lloydm38@hwbcymru.net neu ffonio 01239 654 553

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.

Noder: Cedwi'r yr hawl i newid y ffenestr ymgeisio fel ei bod yn cau'n gynt neu'n hwyrach na'r hyn a hysbysebir ar hyn o bryd.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy