MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Addysg Bellach
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyswllt Addysg Oedolion CC/2369

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Swyddog Cyswllt Addysg Oedolion

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol: Llawn amser

Graddfa Gyflog: £ 23,907 - £25,965

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cyswllt Addysg Oedolion ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Byddwch yn atebol i Gyfarwyddwr Cwricwlwm Addysg Sylfaenol i Oedolion, byddwch yn cyfrannu at y cyfranogiad cynyddol mewn dysgu i oedolion trwy gynllunio, cydlynu a datblygu cyflwyno sgiliau oedolion.

Wrth weithio gyda sefydliadau lleol byddwch yn cefnogi dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd i fynd i’r afael â chyrsiau dysgu i oedolion ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canfod a datblygu cyfleoedd rhwydweithio cadarn gyda sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, ysgolion a chyflogwyr lleol, lle fo’n briodol. Byddwch yn canfod grwpiau nad ydynt yn cymryd rhan a grwpiau sydd wedi'u heithrio a datblygu strategaethau sy'n anelu at nodi eu hanghenion. Byddwch yn datblygu dull cydlynol gyda sefydliadau cymunedol, i gynorthwyo’r dysgwyr hyn i gyrchu cyrsiau priodol.

Bydd y Swyddog Cyswllt Addysg yn cynrychioli’r coleg mewn cyfarfodydd priodol gyda rhanddeiliaid allanol e.e. Cyfarfodydd Partneriaeth Gymunedol. Byddwch yn gweithio gyda’n hadran farchnata, i ddatblygu adnoddau cyfarfodydd priodol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a phrosbectws rhan-amser i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a’n dysgwyr.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Gofynion Hanfodol
  • Saesneg a Mathemateg TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth)
  • Profiad o ymgysylltu â’r gymuned
  • Gwybodaeth a phrofiad o ddysgu i oedolion
  • Profiad o drefnu a chynnal digwyddiadau
  • Gallu dangos ymrwymiad i Ddiogelu ac ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd
  • Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Sgiliau TGCh da
  • Gallu dangos empathi â diwylliant Cymru
  • Gallu dangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Gallu teithio’n hyblyg ar draws y dalgylch
  • Hunan-gychwynnol gydag agwedd ragweithiol
  • Gallu cynllunio, rheoli a gweithio i dargedau
  • Gallu adeiladu perthnasau cadarn gyda staff a rhanddeiliaid allanol
  • Gallu rhwydweithio’n effeithiol

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai