MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 5 | £27,269 - £30,060 PRO RATA
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Grade 5 | £27,269 - £30,060 PRO RATA
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Mae'r Corff Llywodraethu'n dymuno penodi Swyddog Cymorth Llesiant gofalgar ac ymroddedig i weithio yn ein tîm bugeiliol. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus ac empathetig sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc i gefnogi eu llesiant a'u galluogi i lwyddo'n academaidd. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion a theuluoedd o ddydd i ddydd i sicrhau eu bod yn mynychu'n rheolaidd ac yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu. Bydd hyn yn cynnwys dod i gyswllt ag asiantaethau allanol perthnasol a llunio adroddiadau cynnydd ac ymgysylltu yn ôl yr angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am gyflawni rhai dyletswyddau Cymorth Cyntaf.
Mae Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r ardal gyfagos. Mae gan Orllewin Mynwy enw rhagorol yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol, ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w holl gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.