MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teachers Pay Scale
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/awes Daearyddiaeth - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teachers Pay Scale

Medi 2025

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i'n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro daearyddiaeth ymroddgar ac egnïol er mwyn addysgu daearyddiaeth yn CC4 a CC5, ac o bosib CA5 yn seiliedig ar brofiad ac arbenigedd. Mae'r adran yn rhan o'r Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau CC4 a phwnc ar wahân yn TGAU hyd at Safon Uwch. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu ail bwnc fel sy'n addas.

Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae'r ysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.

Rydym yn tyfu fel ysgol bob oed ac hefyd yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaeth genedlaethol.

Bydd y prif gyfrifoldebau'n cynnwys:
  • Paratoi ac addysgu gwersi daearyddiaeth
  • Cyfrannu, trwy'r adran a thu hwnt, i ddatblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan
  • Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon dan oruchwyliaeth yr arweinydd adran
  • Ymchwilio a chydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch yn ôl yr angen
  • Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
  • Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr

Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
  • Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;
  • Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm;
  • Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol, athrawon sydd newydd gymhwyso neu athrawon cynradd am y swydd hon.

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, cwblhewch ffurflen cais. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 o'r gloch 19.03.2025

This is an advertisement for the post of a teacher of geography in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.