MANYLION
- Lleoliad: Cardigan,
- Testun: Pennaeth Adran
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Ynglŷn â'r rôl
GRADDFA CYFLOG: L7 - L13 (+ 2 bwynt ychwanegol am ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol fel Pennaeth yr ail ysgol)
ISR: 1b
Cyflog: £53,120 - £61,466 + 2 bwynt ychwanegol
Yn eisiau erbyn 1af Medi, 2023 (neucyn gynted a phosib ar ôl hynny)
Nifer y dysgwyr ym mis Mai 2023 - Cenarth: 98 Llechryd: 62
Mae Cyrff Llywodraethol Ysgolion Cynradd Cenarth a Llechryd yn chwilio am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig i arwain yr ysgolion yn ystod y cyfnod cyffrous hwn ym myd addysg. Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i ddatblygu ymhellach y berthynas sydd eisoes wedi ei meithrin rhwng y ddwy ysgol, a hynny er budd y dysgwyr.
Mae Ysgol Gynradd Cenarth yn ysgol ardal wledig sy'n darparu addysg ar gyfer dysgwyr 3-11 oed. Mae'r ysgol yn croesawu dysgwyr o ardaloedd cyfagos yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Cymraeg yw prif iaith yr ysgol. Mae hi'n ysgol hapus, gartrefol a chroesawgar, a chynigir cyfleoedd di-ri i feithrin dwyieithrwydd y dysgwyr drwy wersi a gweithgareddau gwahanol, megis Siarter Iaith, Ysgol Eco, cyngherddau Nadolig, cystadlu yn yr eisteddfod, ac ati. Mae llawer o waith adnewyddu ac adeiladu wedi cymryd lle'n ddiweddar. Mae digonedd o le i ddarparu gweithgareddau awyr agored, ac mae'r dysgwyr wrth eu boddau ar y safle. Mae Mudiad Meithrin, Cylch Ti a Fi a darpariaeth ôl ysgol yn bodoli ar y safle.
Lleolir Ysgol Gynradd Llechryd yng nghanol y pentref, ac mae'n gwasanaethu'r plant lleol a'r cyffiniau. Mae Ysgol Gynradd Llechryd yn ysgol hapus a gofalgar ag ethos cryf o gynhwysiant. Cafodd gweledigaeth yr ysgol ei fabwysiadu a'i rannu'n llwyddiannus, ac anogir pob dysgwr i ddatblygu hyd eithaf ei allu. Mae holl staff yr ysgol yn cydweithio'n dda er mwyn darparu cwricwlwm eang ac ysgogol gan gynnig profiadau dysgu cyffrous. Llwyddodd yr ysgol i ennill gwobr Eco ysgol platinwm, gwobr arian Siarter Iaith, ac ar hyn o bryd yn gweithio tuag at y wobr aur. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei hadroddiadau llwyddiannus yn sgil arolygaethau Estyn.
Mae Ysgolion Cynradd Cenarth a Llechryd eisoes yn cydweithio'n effeithiol ar drawstoriad o feysydd, megis datblygu'r Cwricwlwm i Gymru (CiG), craffu'r dysgu ac addysgu, a rhannu syniadau ac adnoddau. Yn ogystal, mae gwaith effeithiol wedi ei wneud ar ymrwymo i ffyrdd newydd o addysgu. I'r perwyl hwn, dymuna'r Cyrff Llywodraethol benodi unigolyn ymroddedig ac arloesol i hyrwyddo'r safonau da presennol, ac adeiladu ymhellach ar fywyd, gwaith ac enwau da y ddwy ysgol.
Mae Cyrff Llywodraethol Ysgolion Cynradd Cenarth a Llechryd yn awyddus i sicrhau fod y ddwy ysgol yn parhau i ffynnu a manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Eu nod yw penodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arwain a rheoli ardderchog a fydd yn:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth llawn amser lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan athrawon profiadol nad ydynt yn dal y cymhwyster CPCP gorfodol ar hyn o bryd ond sy'n fodlon ymrwymo i gyflawni hyn o fewn 2 flynedd. Bydd ymgeisydd a benodwyd yn y sefyllfa hon yn Bennaeth Dros Dro nes i'r cymhwyster gael ei gyflawni.
Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ddwy ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Mr Chris James (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Cenarth) ar 01239 710808 a Mrs Nicky Redmond (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Llechryd) ar 07766 67214 i drefnu ymweliad.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch ag Elen Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07970 000479 neu drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun, 19eg Mehefin, 2023 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 28ain Mehefin, 2023.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:

- adeiladu ar y bartneriaeth iach sydd eisoes yn bodoli a chynnal perthynas gref â'r holl rhanddeiliaid
- darparu arweiniad rhagorol sy'n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
- hyrwyddo lles y dysgwyr a'r staff
- annog a chefnogi pob dysgwr i wireddu pedwar diben y CiG
- hyrwyddo safonau, cynnydd a chyrhaeddiad uchel i bawb
- arwain ar agendâu trawsnewid cenedlaethol
- hyrwyddo datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
- annog ymglymiad rhieni/gofalwyr a chymuned y ddwy ysgol
- hyrwyddo cynhwysiant yn llawn
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
- weledigaeth glir ar gyfer datblygu'r bartneriaethsy'n ysbrydoli staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr fel ei gilydd
- disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad y ddwy ysgol a chymunedau ehangach Cenarth a Llechryd
- y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
- dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i ddatblygu arferion addysgeg effeithiol
- sgiliau cyfathrebu, rhyng-bersonol, rheoli a threfnu cryf
- dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob dysgwr er mwyn cyflawni eu llawn botensial
- gwybodaeth gadarn o ddatblygiadau ac arferion addysg gyfredol a diddori ynddynt
- ymrwymiad i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ac gwaith tîm
- ymrwymiad cryf i barhau'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y cymunedau a'r ysgolion lleol, Cylch Meithrin, Cylch Ti a Fi ac Urdd Gobaith Cymru
- y gallu i annog dysgwyr i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni/gofalwyr i gefnogi'r Gymraeg adref
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth llawn amser lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan athrawon profiadol nad ydynt yn dal y cymhwyster CPCP gorfodol ar hyn o bryd ond sy'n fodlon ymrwymo i gyflawni hyn o fewn 2 flynedd. Bydd ymgeisydd a benodwyd yn y sefyllfa hon yn Bennaeth Dros Dro nes i'r cymhwyster gael ei gyflawni.
Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ddwy ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Mr Chris James (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Cenarth) ar 01239 710808 a Mrs Nicky Redmond (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Llechryd) ar 07766 67214 i drefnu ymweliad.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch ag Elen Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07970 000479 neu drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun, 19eg Mehefin, 2023 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 28ain Mehefin, 2023.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant