MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Testun: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Mathemateg, Gwyddoniaeth a TGCh - Ysgol Gyfun Aberaeron

Athro/Athrawes Mathemateg, Gwyddoniaeth a TGCh - Ysgol Gyfun Aberaeron

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Athro/Athrawes 0.7 i ddechrau Medi 2023 i ddysgu cyfuniad o Fathemateg, Gwyddoniaeth a TGCh.

Rydym yn awyddus i gyflogi athro brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu cyfuniad o wersi Mathemateg, Gwyddoniaeth a TGCh.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Athro rhagorol.
  • Chwaraewr tîm gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog a rhyngbersonol.
  • Ymrwymo i godi safonau ac yn rhywun sydd yn cael effaith fesuradwy fel athro unigol.

    Mi fyddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gydag adrannau lwyddiannus sydd wedi sicrhau canlyniadau da dros y blynyddoedd. Mae'r Ysgol wedi buddsoddi yn sylweddol i sicrhau'r offer a'r adnoddau gorau posib I ddisgyblion a staff gan gynnwys adnewyddu 3 ystafell TGCh llynedd a dechrau gwaith ar drawsnewid dwy ystafell wyddoniaeth. Mae athrawon yr adran yn manteisio ar gefnogaeth lawn gan dechnegydd Gwyddoniaeth rhagorol.

    Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

    Disgrifiad Swydd

    Mae croeso i chi ffonio i gael sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth - cysylltwch â Mr Owain Jones y Prifathro 01545 570 217.

    Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

    Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
    Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy