MANYLION
  • Lleoliad: , ,
  • Testun: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £44.74 - £44.74
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2023 5:01 y.p

This job application date has now expired.

Tiwtor Cyswllt mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Thai

Tiwtor Cyswllt mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Thai

Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

• Cael dogfennau perthnasol y cwrs, a bod yn gyfarwydd â nhw, sy'n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â nodau a gweithrediad y cwrs, gan gynnwys y maes llafur, dulliau asesu, y dulliau addysgu a ffefrir, gwybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr, dyddiadau ac amseroedd y cwrs, ac ati.
• Cysylltu ag aelodau o dîm y rhaglen, fel y bo'n briodol, er mwyn deall gofynion, cydlynu cynlluniau a chamau gweinyddol ac i drafod newidiadau.
• Paratoi deunydd cwrs effeithiol a fydd yn cyflawni nodau'r cwrs, gan gynnwys gwella'r profiad dysgu trwy ddull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
• Mynychu a chyflwyno sesiynau fel y cytunwyd arnynt, darlithio, arwain trafodaethau ac, fel arall, darparu arweiniad a chyngor, a hyrwyddo dysgu, yn ôl yr angen.
• Paratoi a marcio unrhyw waith ysgrifenedig, gwaith stiwdio, gwaith dosbarth a phapurau arholiad cysylltiedig yn ôl yr angen, yn unol â’r gweithdrefnau asesu priodol.
• Rhoi adborth adeiladol ac amserol i fyfyrwyr ar eu cynnydd.
• Cadw’r cofnodion o asesiadau a phresenoldeb hynny sydd eu hangen ar y Brifysgol.
• Cadw at amseroedd agor a chau dosbarthiadau yn llym.
• Sicrhau bod Cyfarwyddwr/Arweinydd y Rhaglen a'r dosbarth yn cael gwybod am eich absenoldeb, lle nad oes modd osgoi hyn, mor bell o flaen llaw â phosibl.
• Darparu cynllun cwrs/gwaith, set o amcanion a rhestrau darllen i fyfyrwyr lle bo hynny'n briodol.

Beth rydym yn chwilio amdano
• Gradd anrhydedd dda a/neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
• Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch.
• Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
• Tystiolaeth o ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
• Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
• Dealltwriaeth eang o faes y pwnc.
• Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
• Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
• Y gallu i gyflawni dyletswyddau gweinyddol mewn modd cywir ac amserol.
• Y gallu i gynllunio llwythi gwaith.
• Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
• Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau, adroddiadau, deunyddiau dysgu.
• Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gweithio cynhyrchiol fel rhan o dîm proffesiynol.
• Y gallu i ddangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch a Safonau Ansawdd.