MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dosbarth Derbyn - Dros Dro

Athro Dosbarth Derbyn - Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Deiniol

Cribffordd

Marchwiail

Wrecsam

LL13 0SB

Pennaeth: Mr Kevin Baugh

Athro Dosbarth Derbyn

MPS 2

Dros Dro - O 1 Medi 2023 tan 31 Awst 2024

Rhan-amser - 16.5 awr yr wythnos

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Deiniol yn dymuno penodi athro dosbarth derbyn rhagorol i ymuno â'n tîm dros dro.

Mae Ysgol Deiniol yn ysgol wych gydag ethos gofalgar a chynhwysol. Bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr fod yn arloesol, yn weithgar a gydag agwedd gadarnhaol 'gallu gwneud'. Bydd yn meddu ar sgiliau addysgu sy'n ysbrydoli, rheolaeth ragorol ar y dosbarth a bydd yn gallu gweithio mewn tîm.

Mae profiad o addysgu disgyblion dosbarth derbyn yn ddymunol.

Gofynnir i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ddod i'r ysgol i gynnal gwers ddydd Llun 12 Mehefin cyn y cyfweliad.

Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol trwy apwyntiad.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y pennaeth ar 01978 353760.

Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael eto ar gyfer swyddi mewn ysgolion; felly llenwch y ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod. Os bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen â llaw, argraffwch, llenwch a dychwelwch hi i'r ysgol.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL, GAN NODI 'SWYDD ATHRO DOSBARTH DERBYN DROS DRO' YN GLIR.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Llun 5 Mehefin 2023

CYFWELIADAU: Dydd Mawrth 13 Mehefin