MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Llanllechid, Bangor,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Glanhawr Ysgol Llanllechid

Glanhawr Ysgol Llanllechid

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib

Glanhawr Yn Ysgol Llanllechid Dros Dro Tan: 31/10/2023

12.25 awr yr wythnos

Cyflog: GS1 Pwynt 2 £10.59 yr awr (£8.92 wedi'i gyfartalu)

Cyflog wythnosol - £109.27

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Dyddiad Cau : 22.06.2023

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH.

Rhif Ffôn : 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn swydd glanhau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.

.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.

• Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu .

• Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.

• Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.

• Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.

• Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.

• Bydd hefyd, pan fo'r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o'r ysgol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Click here to enter text.