MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff , Cardiff, CF117LU
  • Testun: Gweithiwr Cefnogi Plant a Phobl Ifanc
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £8,419.00 - £8,419.00
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth Plant a Phobl Ifanc

Gweithiwr Cymorth Plant a Phobl Ifanc

Adoption UK Cymru
Adoption UK yw’r brif elusen sy’n darparu cefnogaeth, cymuned, ac eiriolaeth i’r sy’n rhianta neu sy’n cefnogi plant nad ydynt yn gallu byw gyda’u rhieni biolegol.
Ein gweledigaeth yw cyfle cyfartal am ddyfodol disglair i bob plentyn nad yw'n gallu byw gyda'i rieni biolegol.

Ar hyn o bryd mae gennym gyfle cyffrous i Weithiwr Cymorth Plant a Phobl Ifanc yn ein tîm Connected yn Adoption UK.

Mae'r rôl yn cynnwys datblygu, darparu a hyrwyddo'r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc yn ardaloedd gwasanaeth mabwysiadu Bae'r Gorllewin a Gorllewin Cymru. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm i sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o wasanaethau cymorth mabwysiadu a’u bod gallu cael gafael arnynt.

Bydd gan y person cywir ar gyfer y rôl hon brofiad blaenorol o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc a bydd yn ddelfrydol yn gymwys i lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Bydd gennych ddealltwriaeth o'r heriau penodol i blant wedi'u mabwysiadu, a byddwch yn gallu gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Os oes gennych angerdd dros wneud gwahaniaeth a’ch bod yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer teuluoedd sy'n mabwysiadu a pherthnasau sy’n rhoi gofal, hoffem glywed gennych.

Mae hon yn swydd ran-amser o 16 awr yr wythnos, yn gweithio o'n swyddfa yng Nghaerfyrddin, gyda theithio o amgylch y rhanbarth. Mae'r rôl ar gontract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2022 gyda'r potensial ar gyfer estyniad yn amodol ar gyllid.
Mae'r rôl yn denu cyflog o £18,418.40, pro-rata i 16 awr.

Cyn llenwi'r ffurflen gais, rydym yn eich annog yn fawr i lawrlwytho'r pecyn ymgeiswyr. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y Proffil Rôl a'r nodiadau canllaw a fydd yn eich helpu i lenwi'r ffurflen gais yn erbyn y meini prawf rydym yn chwilio amdanynt.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn elusen gynhwysol, ac rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned. Fel elusen ledled y DU, ein nod yw cael cynrychiolaeth o bob gwlad gyfansoddol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bawb sy'n gweithio gyda ni rannu'r ymrwymiad hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch ynglŷn â'r broses ymgeisio neu gyfweld, cysylltwch â'r Gwasanaethau Pobl ar peopleservices@adoptionuk.org.uk.

Os oes gennych gwestiynau sy'n benodol i'r swydd, cysylltwch â Ruth Letten ruth.letten@adoptionuk.org.uk neu ffoniwch 07970 168546.

Gallwch fynd ati i wneud cais drwy fynd i'n gwefan https://www.adoptionuk.org/jobs-page