MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Prosiect Ieuenctid Rhan Amser Cynllun Chwarae Haf x3

Gweithiwr Prosiect Ieuenctid Rhan Amser Cynllun Chwarae Haf x3

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Graddfa Cyflog JNC Pwynt 5-9 £10.18 - £11.30 yr awr

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sion Bryn Roberts ar 01758704464 neu 07920264113

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD IAU, 08/06/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc

Y gallu i weithredu fel aelod o dîm bychan sydd yn gweithio min nos ac ar benwythnosau

Gallu gweithio oriau anghymdeithasol
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Cymhwyster Lefel 3 neu Uwch mewn Gwaith Ieuenctid

Cwrs Amddiffyn Plant Lefel 1
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio hefo pobl ifanc

Profiad o ddarparu prosiectau / gweithgareddau i bobl ifanc
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau o allu cyfathrebu yn effeithlon wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc

Rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg

Sgiliau trefnu a gweinyddu da

Gallu i weithio gyda pobl Ifanc

Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant
Dymunol
Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfoes ym maes gwaith Ieuenctid
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cynorthwyo i ddarparu prosiectau a profiadau sy'n cynnig her a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc, rhwng 11 ac 19 mlwydd oed, sy'n ymateb i'w hanghenion unigol a'u hanghenion fel grwp. Fe gynllunnir rhaglen i gynnal trawsfudiad y person ifanc i fyd oedolion drwy gynyddu eu sgiliau personol a chymdeithasol a thrwy hynny eu galluogi i ymwneud yn feirniadol ac adeiladol yn y gymuned y maent yn byw ynddi a'r gymdeithas ehangach. Bydd hyn yn ystod y dydd a`r gyda`r nos i gynnig gweithgareddau hwyl ar draws y sir
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Bydd yn gyfrifol am yr offer y bydd yn ei ddefnyddio ar y pryd
Prif ddyletswyddau
• Cyflwyno prosiectau a gweithagreddau i bobl ifanc yn eu cymunedau.

• Sicrhau bod pobl ifanc teimlo'n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau neweidiol all eu effeithio

• Cynorthwyo i drefnu rhaglen o Haf o Hwyl a chynnig gweithgareddu ym mhob rhan o`r sir - llogi, ac offer

• Cadw asesiad risg manwl o`r digwyddiadau

• Cadw at yr holl bolisiau perthnasol y cyflogwr a gofynion stadudol eraill, yn cynnwys Cyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant

• Mewnbynnu gwybodaeth angenrheidiol sydd ei angen am bobl Ifanc yn y system gasglu gwybodaeth sydd yn adrodd yn o li Llywodraeth Cymru

• Sicrhau bod llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a'i ddatblygu

• Mynychu cyfarfodydd staff yn ôl yr angen

• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Cyflogaeth:

JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned

Pwyntiau 5 - 9

Gwyliau Blynyddol:

Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny (pro rata)

Lleoliad:

Gwasanaethu Dalgylch - Ar Draws Gwynedd

Oriau Gwaith:

Yr wythnos waith: 25 awr yr wythnos, i'w weithio fin nos ac ar benwythnosau, ac ar brydiau fe all fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Swydd dros dro o Gorffenaf hyd at ddiwed Medi 2022 yw hon

Oriau:

Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl

Defnydd car:

Defnydd o gar a trwydded yrru llawn. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel "defnyddiwr car achlysurol"

Ieithyddol:

Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r cychwyn

Byddwch yn cael eich penodi i weithio yn eich dalgylch ond ar amgylchiadau arbennig bydd gofyn i chi weithio tu allan i'ch dalgylch

Mae'r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy'r Bwrdd Cofnodi Troseddau

Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i'r apwyntiad