MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Seicoleg
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Seicolegwry Addysg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Seicolegwyr Addysg - Prif Raddfa

Swydd: swyddi 1 PARHAOL ar gael 37 awr yr wythnos - systemau gweithio hyblyg

Cyfeirnod y Swydd:

Adran: Yr dran Addysg

Gwasanaeth: Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint, canol tref Wrecsam

Cyflog: Soulbury A 2-7 (bydd pwyntiau SPA o'r gorffennol yn cael eucydnabod)

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Joy Mitchell, Prif Seicolegydd Addysg - 01978- 295546.

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr doethuriaeth sydd ar yr AIL NEU'R DRYDEDD FLWYDDYN o'u cwrs, yn ogystal â cheisiadau gan seicolegwyr addysg profiadol. Disgwylir ymrwymiad i aros mewn cyflogaeth gyda thîm Wrecsam am o leiaf dwy flynedd.

Rydym ni yn nhîm Wrecsam yn chwilio am seicolegwyr addysg cadarnhaol a chreadigol i ymuno â thîm cyfeillgar a chroesawgar. Mae ein gwasanaeth yn darparu amgylchedd cefnogol, hyblyg a chydweithredol, lle mae gwahanol ddoniau'n cael eu gwerthfawrogi, lle mae arbenigedd yn cael ei rannu a lle mae cyfleoedd i feithrin diddordebau. Rydym yn meithrin

ethos o gysylltu a chydweithio.

Bydd gofyn i chi wneud yr ystod lawn o waith mewn Gwasanaeth sydd wedi'i seilio ar ymgynghori ac o fewn fframwaith o ddyrannu amser yn glir.

Mae gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hynod ddymunol.

Tra byddwch yn gweithio yn y Gwasanaeth hwn, gallwch ddisgwyl:

• Cyfleoedd amrywiol i dderbyn goruchwyliaeth a chymorth yn gyson.

• Pwyslais ar feddwl gan ganolbwyntio ar yr unigolyn gyda chydweithwyr sydd â chylchoedd gorchwyl arbenigol.

• Diwylliant sy'n hybu arloesi drwy ddatblygu proffesiynol, ymchwil a gwaith prosiect. Rydym yn canolbwyntio ar les staff a disgyblion a gwella gwaith Seicolegwyr Addysg mewn ysgolion uwchradd ar hyn o bryd.

• Ymrwymiad i ddatblygu proffesiynol parhaus.

• Cyfleoedd i weithio mewn ystod o ysgolion gweledig a threfol o fewn lleoliad aml ethnig.

• Cysylltiadau cryf gyda gwasanaethau a chyfleodd i weithio ar y cyd.

• Paratoi ar gyfer newid wrth i ni ddechrau rhoi arferion ADY newydd a'r cwricwlwm newydd yng Nghymru ar waith.

Mae Wrecsam yn cynnig cyfleoedd gwaith amrywiol a heriol ac mae rhwydweithiau ffyrdd da ynddi. Yn ein swyddfeydd canolog, mae lle gwaith cyfforddus wedi'i neilltuo i ni a chefnogaeth weinyddol. Cefnogir aelodau tîm i weithio o bell gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar-lein.

Dyddiad Cau : 05/05/23

Dyddiad y Cyfweliad : 12/05/23

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.