MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymdeithasol Addysg - Dros dro x2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G09 - £32,909 - £35,411 pro rata

G10 - £36,298 - £39,493 pro rata

Dros Dro (05/06/23 - 19/07/24)

Yn ystod y tymor yn unig - 39 wythnos y flwyddyn

Lleoliad - Adeiladau'r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8BG

Mae yna gyfle i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Addysg i ymuno â thîm prysur a chefnogol yn Wrecsam.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth a her i ysgolion a theuluoedd ar faterion sy'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiad a diogelu yn unol â deddfwriaeth, canllawiau a pholisi adrannol a chenedlaethol.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal asesiadau a gallu cydlynu cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod yn gyfrannwr tîm da gyda sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu ardderchog.

Mae profiad gwaith llys yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Rhaid i ymgeiswyr allu siarad Cymraeg yn rhugl gan y byddant yn gweithio yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.

Swydd dros dro yw hon, yn ystod tymor ysgol yn unig, wedi'i hariannu tan fis Gorffennaf 2025 gyda'r posibilrwydd o'i hymestyn yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.

I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â John Hodgson - 07808787761 / 01978 268728.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.