MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 - Canolfan Cynhwysiant ar y Safle

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Ffôn: 01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 - Canolfan Cynhwysiant ar y Safle

G06 £16,308 - £17,227 y flwyddyn

Yn ystod y tymor yn unig - 30 awr yr wythnos

38 wythnos y flwyddyn

Dyddiad dechrau: Cyn gynted ag y bo modd

Rydym yn edrych am CALU (neu CA lefel 2 os na ellir cael CALU yn ystod y flwyddyn gyntaf) i ymuno â'n canolfan gynhwysiant ar y safle.

Mae ein canolfan gynhwysiant ar y safle yn ddarpariaeth byr dymor i fyfyrwyr CA3 a CA4 nad ydynt yn mynychu amserlen lawn amser mewn addysg prif ffrwd. Mae'n ateb dros dro o ran addysg gyda'r nod o fyfyrwyr CA3 yn dychwelyd i amserlen lawn amser ac i gefnogi myfyrwyr CA4 trwy eu cyrsiau TGAU a darparu cymwysterau ychwanegol.

Mae ein canolfan gynhwysiant yn cael ei rhedeg gan athro cymwysedig ac yn cynnwys cefnogaeth gan staff addysgu pynciau craidd yn ogystal â'r CALU. Mae myfyrwyr yn mwynhau cwricwlwm wedi ei addasu a defnyddio cyfleusterau'r ysgol.

Swyddogaeth y CALU yw cefnogi ac ymgysylltu â myfyrwyr yn ein canolfan gynhwysiant i wneud cynnydd da neu well trwy gefnogaeth effeithiol o ansawdd uchel ar gyfer eu dysgu. Arwain ar gymwysterau galwedigaethol sy'n cynnwys darparu cefnogaeth briodol ar gyfer gweithgareddau dysgu.

Mae manylion pellach am y swydd, y ffurflen gais a'r swydd-ddisgrifiad ar gael ar wefan yr ysgol www.clywedog.org

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddechcystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu llenwi at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, neu eu hanfon dros e-bost at vacancies@clywedog.org .

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 9.00 am Hydref 2il 22023

Cyfweliadau: w/c Hydref 2il 2023