MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Cyfnod Sylfaen

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair

Park Street

Rhiwabon

LL14 6LE

Pennaeth: Mrs Nicola Booth

Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen

Llawn Amser, Parhaol

MPR / UPR

I ddechrau ar 1 Medi 2023.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair yn dymuno penodi athro / athrawes Cyfnod Sylfaen ragorol i ymuno â'r tîm.

Mae Ysgol y Santes Fair yn ysgol ardderchog gydag ethos gofalgar a chynhwysol. Bydd angen i'r ymgeisydd fod yn arloesol, yn weithgar a chydag agwedd gadarnhaol, wrth hyrwyddo'r ffydd Gristnogol. Bydd ganddo/ganddi sgiliau addysgu sy'n ysbrydoli, rheolaeth ragorol ar y dosbarth a bydd yn gallu gweithio mewn tîm.

Byddai profiad o ddysgu disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn ddymunol.

Gofynnir i'r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer roi gwers yn Ysgol y Santes Fair cyn cael cyfweliad (arsylwi yn yr wythnos yn dechrau ar 8 Mai).

Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol trwy apwyntiad.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth ar 01978 820979.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod: Mailbox@stmarys-ruabon-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener, 28 Ebrill 2023, am 3:15pm

CYFWELIADAU: Dydd Iau, 11 Mai 2023