MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Cymraeg

Athro Cymraeg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Ffôn: 01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

Athro Cymraeg

Llawn amser - Parhaol

Graddfa Gyflog MPS

Dyddiad cychwyn: Mor fuan â phosib

Diolch am fynegi diddordeb yn y swydd hon.

Rydym ni'n chwilio am Athro Cymraeg sy'n llawn egni, cymhelliant ac ysbrydoliaeth i ymuno â'n hysgol fywiog.

- A oes gennych chi'r arbenigedd i gyfrannu at ein hysgol sy'n gwella'n gyson?

- A oes gennych ymdeimlad clir o bwrpas a'r dyhead i gyrraedd y safonau uchaf posib?

- A oes gennych frwdfrydedd tuag at addysg a'r dewisiadau bywyd mae ysgol dda yn eu cynnig i bobl ifanc?

Os felly, hoffem glywed gennych chi a byddwch chi'n elwa o:

- Ymuno â thîm proffesiynol gwerthfawr.

- Derbyn cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol.

- Bod yn rhan o ysgol uchelgeisiol.

- Defnydd o dechnolegau newydd.

Mae rhagor o fanylion am y swydd, y ffurflen gais a'r swydd-ddisgrifiad ar gael ar wefan yr ysgol yn www.clywedog.org neu fe allwch chi lenwi'r ffurflen gais PDF isod. Os ydych chi'n cyflwyno'ch cais ar bapur, anfonwch eich ffurflen at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, neu os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais yn electronig anfonwch hi dros e-bost i vacancies@clywedog.org .

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraegyn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 9.00 am Dydd Llun 26 Mehefin 2023

CYFWELIADAU: wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2023