MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Ebrill, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 - Noddfa

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G04 £14,378 - £14,640 y flwyddyn

Yn ystod y tymor yn unig

30 awr yr wythnos - 5 diwrnod yr wythnos

39 wythnos y flwyddyn

Mae'r Awdurdod Lleol yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol rhagorol er mwyn cyfrannu at ddatblygiad strategol o'r ganolfan asesu ac ymyrraeth. Mae gan Noddfa ddwy ddarpariaeth ar wahân, un yn Ganolfan Asesu ac Ymyrraeth ar gyfer 0-25 oed yn cynnig cefnogaeth aml-asiantiaeth ac allgymorth ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r llall yn darparu 3 ystafell ddosbarth pwrpasol ar gyfer disgyblion ag Awtistiaeth ac Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2.

Fel aelod o wasanaeth aml-asiantiaeth ac amlddisgyblaethol fe fydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau bod Noddfa yn ffynnu ac hyrwyddo ethos o gydweithio cadarnhaol gyda'r holl rhanddeiliaid.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r Athrawon Adnodd a'r Cymorthyddion Lefel 4 er mwyn sicrhau bod Noddfa yn cyflawni cyfrifoldebau statudol a darparu addysg i ddisgyblion gyda Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Awtistiaeth ac Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 tra hefyd yn gweithio yn agos gydag ysgolion ar draws y sir.

Fe fydd gan ddeiliad y swydd feddylfryd sydd yn seiliedig ar ddatrysiad ac hefyd fe fydd yn angerddol dros wireddu ymateb disgybl-ganolog holistaidd a meithringar.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.