MANYLION
  • Lleoliad: Within and Outside of Ceredigion,
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Addysgwyr Carlam Cymru

Addysgwyr Carlam Cymru

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Ym mis Ionawr 2021, comisiynwyd e-sgol gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfres o sesiynau adolygu byw ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Cynhelir yr holl sesiynau ar ôl oriau ysgol a chânt eu recordio hefyd, er mwyn i fyfyrwyr allu ailymweld â hwy ar unrhyw adeg. Mae Carlam Cymru yn parhau yn ystod 2022/23, gyda sesiynau byw ar gael i fyfyrwyr yn ystod tymor yr Hydref 2022 a Gwanwyn 2023.

Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i'r gwaith anhygoel mae'r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae'r sesiynau adolygu byw AM DDIM ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.

Mae e-sgol yn edrych i benodi ymarferwyr profiadol o bob rhan o Gymru i gyflwyno a/neu hwyluso digwyddiadau byw ar-lein a fydd yn cael eu rhannu ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y sesiynau yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o wahanol destunau/unedau o fewn pynciau amrywiol.

Disgrifiad o'r Rôl

Noder: Cedwir yr hawl i ddiwygio'r dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant