MANYLION
- Lleoliad: Tregaron,
- Testun: Cymorth
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Ynglŷn â'r rôl
Ysgol 3-16 o 360 o ddisgyblion yw Ysgol Henry Richard sydd wedi'i lleoli yn nhref farchnad Tregaron yng Ngheredigion.
Mae corff llywodraethol Ysgol Henry Richard yn awyddus i benodi Goruchwylwyr Arholiadau brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Arholiadau cefnogol ac ymroddedig. Bydd y rôl hon yn caniatáu ichi weithio'n hyblyg yn achlysurol yn ystod cyfnodau arholiadau'r ysgol.
Pwrpas y rôl hon yw sicrhau bod gan ymgeiswyr amgylchedd cyfartal, diogel a sicr i sefyll eu harholiadau yn unol â chanllawiau'r Cyd-gyngor Cymwysterau ar gyfer cynnal arholiadau.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh ar 01974 298 231 neu pughd22@hwbcymru.net
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder:Cedwir yr hawl i estyn dyddiad cau.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn gan gymryd camau i ddiogelu'u lles a chydnabod eu hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi gan ethos cyffredinol yr holl ysgolion.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
Darllen mwy

- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy