MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cefnogi Busnes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G04 £21,189 - £21,575 pro rata

30 awr yr wythnos

Dros dro tan 31/03/2025

Mae swydd Cynorthwyydd Cefnogi Busnes wedi codi gyda'r Tîm Dechrau'n Deg. Bydd y sawl a benodir yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y tîm amlasiantaeth ehangach ym mhrif swyddfa Dechrau'n De yng Ngwenfro gan ddarparu gwasanaeth o dro i dro hefyd yn swyddfeydd eraill Dechrau'n Deg eraill yn Wrecsam.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad o ddefnyddio pecynnau TG yn y gweithle ac o wneud gwelliannau i ymarfer, yn ychwanegol at sgiliau llafar, ysgrifenedig, rhifedd, cyfathrebu a chymryd cofnodion rhagorol a'r gallu i ymdrin â materion cynhennus. Fydd mewnosodi fanylion fel tystiolaeth o'r perfformiad y wasanaeth yn rhan mawr o'r swydd

Am drafodaeth anffurfiol ffoniwch Melita Colling- Cydlynydd y Gwasanaeth Dechrau'n Deg ar (01978) 297271

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.