MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £60,000.00 - £65,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dirprwy Brifathro/awes- Ysgol Dyffryn Nantlle

Dirprwy Brifathro/awes- Ysgol Dyffryn Nantlle

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 420 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi, 2023

DIRPRWY BENNAETH

CYFLOG: L11 - L15 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£57,790 - £63,656)

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr profiadol, brwdfrydig a chymwys ar gyfer y swydd allweddol yma. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cyfraniad allweddol i reolaeth uwch a datblygiadau o fewn yr ysgol ac yn cynnig gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 30AIN O FAWRTH, 2023.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD DDISGRIFIAD - Dirprwy Bennaeth Ymddygiad, Lles a Chynhwysiad ac ADY
Teitl y Swydd: Dirprwy Bennaeth

Gradd Gyflog: Pwyntiau Graddfa Arweinyddiaeth L15

Yr hyn sy'n dilyn yw rhestr o gyfrifoldebau y gallai fod yn ofynnol i'r Dirprwy Bennaeth eu cyflawni. Gall fod yn destun ail-negydu os bydd newidiadau o fewn yr Uwch Dîm Reoli. Mae'n cynrychioli ymhellach restr o gyfrifoldebau na ellir eu cyflawni ar yr un pryd ac felly mae'n destun blaenoriaethu, dirprwyo neu ofynion amrywiol gwahanol gyfnodau o'r flwyddyn academaidd. Mae hefyd yn ddarostyngedig i delerau'r ddogfen Cyflog ac Amodau Gwasanaeth Athrawon Ysgol sy'n berthnasol i Ddirprwy Brifathrawon.

Rheolaeth
Atebol i'r Pennaeth.
Dyletswyddau Cyffredinol:
1. Dirprwyo ar ran y Pennaeth pan fydd yn absennol o'r safle neu fel arall ddim ar gael ac ar yr adegau hynny i fod yn gyfrifol am arwain a rheoli'r ysgol.

2. Ymgynghori, lle bo hynny'n briodol, â'r Awdurdod, y Corff Llywodraethu, staff yr ysgol a rhieni'r disgyblion.

3. Cymryd cyfrifoldeb penodol am weithredu, adolygu a, lle bo angen, adolygu'r polisïau canlynol yn flynyddol (pan fo angen) neu o leiaf bob pum mlynedd a chyflwyno unrhyw bolisi a adolygwyd neu a ddiwygiwyd i'r Llywodraethwyr i'w gymeradwyo.
Ymddygiad
Lles disgyblion a staff
ADY a MAT
Amddiffyn Plant
Gwaharddiadau
Presenoldeb
Gweithdrefnau Cwynion
Llawlyfr Staff
Pontio CA2-3 a Throsglwyddo ADY ôl 16
Cyflawniadau a Gwobrwyo
Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith
Abach
System Fugeiliol CA3, 4 a 5
Llais y dysgwr

4. Cysgodi aelodau eraill o'r Uwch Dîm Reoli er mwyn monitro effeithiolrwydd gweithrediad y polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt neu gymryd cyfrifoldeb amdanynt os na fyddant ar gael yn y tymor hir mewn perthynas â'r agweddau canlynol ar waith yr ysgol:
Lles
Iechyd (meddyliol, emosiynol a chorfforol)

5. Chwarae rhan bwysig o dan gyfarwyddyd y Pennaeth yn:

a) llunio nodau ac amcanion yr ysgol;
b) sefydlu'r polisïau ar gyfer eu cyflawni;
c) rheoli staff ac adnoddau i'r perwyl hwnnw; a
ch) monitro cynnydd tuag at eu cyflawniad;

6. Bod yn gyfrifol am yr holl faterion sy'n gysylltiedig ag Ymddygiad, Lles a Chynhwysiad ac ADY a darparu unrhyw wybodaeth mewn perthynas â gweithredu'r tri fel sy'n ofynnol;

7. Bod yn gyfrifol am ymchwilio'n gyson i geisio ehangu darpariaeth o weithgareddau a phrofiadau allgyrsiol;

8. Gweithredu del Person Dynodedig Amddiffyn Plant;

9. Cynnal adolygiad blynyddol o'r Llawlyfr Staff a'u diweddaru fel bo'r angen;

10. Cefnogi polisi tangyflawniad yr ysgol a monitro tangyflawnwyr i gefnogi'r aelod o'r UDR sydd â chyfrifoldeb cyffredinol;

11. Cydweithio gydag asiantaethau allanol i sicrhau'r ddarpariaeth gorau i'r dysgwyr, o ran iechyd a lles;

12. Bod yn gyfrifol am y system a Thîm Bugeiliol CA3, CA4 a CA5;

13. Cynrychioli'r ysgol mewn Ymgynghoriadau;

14. Cadeirio Adolygiadau Blynyddol ADY;

15. Arwain, adolygu ac addasu trefn disgyblaeth yr ysgol, fel yr angen;

16. Gweinyddu a rheoli gwaharddiadau mewnol ac allanol, gan fynychu paneli disgyblu;

17. Bod yn gyfrifol am y Tîm ADY, gan gynnwys rheoli'r Canolfan Sgiliau a'r staff;

18. Hyrwyddo perthynas effeithiol â phersonau a chyrff y tu allan i'r ysgol;

19. Darparu presenoldeb gweladwy yn yr ysgol ac o'i hamgylch, i fod yn gyfrifol am dîm dyletswydd os yw'n ofynnol gan y Pennaeth a chefnogi polisïau'r ysgol ar dangyflawni ac ymddygiad disgyblion;

20. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill y gellir eu dyrannu'n rhesymol drwy gytundeb o fewn yr Uwch Dîm Rheoli.

Gellir diwygio'r disgrifiad swydd a'r dyraniad o gyfrifoldebau penodol drwy gytundeb o bryd i'w gilydd.