MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Testun: Astudiaethau Cyffredinol
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Mathemateg a Chyd-Gysylltydd Rhifedd- Ysgol Ardudwy

Athro/Athrawes Mathemateg a Chyd-Gysylltydd Rhifedd- Ysgol Ardudwy

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL ARDUDWY, HARLECH
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 324 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi 2023

ATHRO/ ATHRAWES MATHEMATEG A CHYD-GYSYLLTYDD RHIFEDD

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person ymroddgar a brwdfrydig i addysgu ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£28,866 - £44,450 y flwyddyn) ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD 2C o £3,071 y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Fiona Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 28 MAWRTH, 2023.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.