MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid  - Dros dro

Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid - Dros dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G09 - £32,909 - £35,411 y flwyddyn

Swydd dan y 31 o Fawrth 2024

37 awr yr wythnos

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn sefydliad aml-asiantaeth sydd â'r weledigaeth ganlynol: "Wrecsam sy'n ddiogel ac yn rhydd rhag trosedd i bawb, lle mae pobl ifanc yn ddinasyddion gwerthfawr o fewn eu cymuned".

Mi fydd y swydd yn arwain trosglwyddiadau o gwasanaethau plant i gwasanaethau oedolion.

Bydd y Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid yn gyfrifol am reoli achosion pobl ifanc sydd wedi derbyn gorchmynion llys statudol neu atgyfeirio gan eraill. Bydd y swyddog hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r bobl ifanc drwy'r broses, gan weithio'n agos gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr.

Fel unigolyn gyda gradd mewn maes perthnasol neu brofiad priodol ym maes Cyfiawnder Ieuenctid, bydd gennych chi brofiad o gynnal asesiadau, darparu ymyriadau a rheoli risg.

Mae'r gwasanaeth yn lle prysur a deinamig i weithio ynddo, felly bydd arnoch chi angen bod yn hyblyg a llawn cymhelliant, gyda brwdfrydedd a gwytnwch i weithio o fewn yr adnoddau i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac i reoli gofynion sy'n gwrthdaro. Bydd deilydd y swydd yn gweithio ddydd Sadwrn a gwyliau banc yn unol â'r rota er mwyn darparu swyddog ar ddyletswydd ar gyfer y llysoedd lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caren Jones, Arweinydd Gwasanaeth Atal a Chyfiawnder Ieuenctid ar 01978 268140.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.