MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun: Cymorth
- Oriau:
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 26 Mawrth, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Disgrifiad
G05 - £21,968 - £22,777 y flwyddyn
Rydym yn chwilio am unigolyn talentog, creadigol a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Derbyniadau dynamig.
Fel Swyddog Derbyniadau Ysgol, byddech yn gyfrifol am brosesu ceisiadau i ddisgyblion sy'n dechrau yn yr ysgol, yn symud i'r ysgol uwchradd ac sy'n dymuno newid ysgol yn ystod y flwyddyn.
Byddech yn cyfathrebu'n effeithiol gyda rhieni a gofalwyr, gan ymateb i unrhyw ymholiadau mewn perthynas â phroses dderbyniadau'r ysgol.
Byddech yn datblygu perthnasoedd gwaith agos gyda Phenaethiaid ac ysgolion ar draws y fwrdeistref yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill o fewn addysg er mwyn helpu a chefnogi disgyblion Wrecsam i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Mae sgiliau dadansoddi ac adrodd rhagorol yn hanfodol i'r swydd hon yn ogystal â gallu rheoli eich amser a'ch gwaith eich hun yn annibynnol. Byddwch yn gallu cyfathrebu'n dda, â sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar a byddwch yn gallu cyfathrebu'n hyderus ag ystod eang o fudd-ddeiliaid.
Byddwch yn gweithio yn y prif swyddfeydd Addysg yn Adeiladau'r Goron yng nghanol dinas Wrecsam a bydd gofyn teithio i ysgolion gwahanol ar draws y Fwrdeistref.
Ar gyfer ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Janette Curtis - janette.curtis@Wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.