MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Arweinydd Busnes a Chyllid - Ysgol Godre'r Berwyn

Arweinydd Busnes a Chyllid - Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG


YSGOLION DILYNOL


YSGOL GODRE'R BERWYN

(Cyfun 3 - 18: 560 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted â phosib.

ARWEINYDD BUSNES A CHYLLID

Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson brwdfrydig a blaengar i gymryd cyfrifoldeb am weinyddiad effeithiol yr ysgol, i reoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol ac i weithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth â'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur ynghyd â phrofiad/dealltwriaeth o reoli cyllideb.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S4 pwyntiau 26 - 28 (£29,059 - £30,660 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Bethan Emyr Jones, Pennaeth, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: bethan.emyr@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 20 MAWRTH, 2023.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau am y swydd yma ar 23 Mawrth 2023.

(This is an advertisement for the post of a School Business and Finance Leader at Ysgol Godre'r Berwyn, Bala for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.