MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £55,000.00 - £60,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Cynorthwyol- Ysgol y Moelwyn

Pennaeth Cynorthwyol- Ysgol y Moelwyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG
(Cyfun 11 - 16; 335 o ddisgyblion)
Ail Hysbyseb

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2023

PENNAETH CYNORTHWYOL

CYFLOG: L8 - L12 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£53,581 - £59,123).

Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol brwdfrydig a blaengar, fydd yn cefnogi gweledigaeth ac ethos yr ysgol, gydag ymrwymiad i'r disgyblion, y sefydliad a'r gymuned.

Yn ychwanegol at gyfrifoldebau generig aelod o`r UDRH bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am yr agweddau isod:
• Byddai arbenigedd mewn Mathemateg neu Gwyddoniaeth yn ddelfrydol
• Gweithdrediad polisi asesu gan gynnwys trefniadau asesu ffurfiannol a chrynodol.
• Trefniadau adrodd i rieni drwy SIMS.
• Gweithdrefnau tracio a defnydd o wybodaeth tracio fel sail i ymyrraeth effeithiol.
• Y defnydd o ddata sy`n sail i systemau hunanarfarnu yr ysgol.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-
pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD MERCHER, 22 MAWRTH, 2023.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.