MANYLION
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
- Testun: Swyddog Gweithredol
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £25,531 - £29,427
- Iaith: Dwyieithog
This job application date has now expired.
Swyddog Gweithredol, Datblygiad Proffesiynol a Chyllid
Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Mae’r tîm datblygiad proffesiynol a chyllid yn gyfrifol am weinyddu trefniadau cyllid, olrhain a chofnodi ar gyfer Sefydlu statudol yng Nghymru a datblygu, gweithredu a gweinyddu’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm sy’n darparu gwasanaeth ymholiadau proffesiynol dwyieithog a chyfleuster desg gymorth ar gyfer ymrestreion a rhanddeiliaid.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weinyddydd profiadol sy’n meddu ar sgiliau rhagorol o ran gwasanaethu cwsmeriaid a rheoli amser. Yn ogystal, bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus roi cyflwyniadau ac arddangosiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac felly’n meddu ar sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y ddwy iaith.
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint)
Mae'r swydd yn barhaol a llawn amser (37 awr yr wythnos).
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Tachwedd 2022.
E-bostiwch recriwtio@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i gael pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio