MANYLION
  • Lleoliad: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5DB
  • Testun: Athro
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH DROS DRO - YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH DROS DRO - YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN

Ysgol Gynradd Heol y Celyn
HEOL Y CELYN PRIMARY SCHOOL/YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH DROS DRO (RHAN AMSER)

Athro/Athrawes Blwyddyn 5 a 6: Rhan amser (3 diwrnod),
Contract am flwyddyn a chyn gynted a phosib.

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi athro cydwybodol, brwdfrydig a chymwys iawn, sy'n gallu cymell a dysgu dosbarthiadau ar draws y cyfnod cynradd yn llwyddiannus. Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael profiad o ddefnyddio TGCh fel offeryn addysgu a dysgu yn gymwys ar draws y cwricwlwm.

Mae Heol y Celyn yn ysgol lwyddiannus, gynhwysol a chefnogol gyda hanes da o gyflawniadau disgyblion. Mae gennym dîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, sy'n ceisio cymell a chefnogi disgyblion i'w galluogi i ddatblygu a chyflawni eu potensial. Felly, rydym yn ceisio penodi athro neu athrawes, sydd â sgiliau ymarferydd dosbarth rhagorol, gyda disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad. Rhaid iddynt hefyd gyfrannu'n frwdfrydig at ethos cynhwysol a phrofiad cyfannol disgyblion, yn ogystal â chyfrannu at ddiwylliant yr ysgol o welliant parhaus.

Rydym hefyd yn chwilio am athro neu athrawes, sydd â'r gallu i weithio o fewn tîm cryf a chyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm. Rhaid iddynt hefyd geisio meithrin perthnasoedd cadarnhaol a gweithio'n agos gyda rhieni, ysgolion clwstwr a'r gymuned ehangach.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cynnal gwers ac yna'n cael eu gwahodd i gyfweliad.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 7 fed o Hydref am 12.00 y prynhawn.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.