MANYLION
  • Lleoliad: Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4TH
  • Testun: Gofalwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Rheolwr Safle - Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon

Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
YSGOL GYNRADD GYMRAEG ABERCYNON
Greenfield Terrace, Glancynon, Abercynon. CF454TH
Rhif Ffôn: (01443) 740239

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 280

Rheolwr Safle

35 Oriau'r Wythnos

Cyflog: Gradd 4 – £19,650 Pro Rata

Amser Dechrau'r: Hydref 2022

Mae Bwrdd Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon yn dymuno apwyntio person didwyll, dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â staff yr ysgol hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymeryd â dyletswyddau porthorol / gofalwr, gwaith atgyweirio cyffredinol / addurno a gwaith cynnal a chadw. Mae’r swydd hefyd yn gofyn am ddyletswyddau glanhau.

Dylai’r ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a blaengar gan ddangos hyblygrwydd tuag at y dyletswyddau sydd ynghlwm i ofynion y swydd a’r gwaith sydd angen ei gyflawni yn yr ysgol.

Buasai dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg yn ddymunol.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anfurfiol cysylltwch gyda’r ysgol.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 23/09/2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.