MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £39,152
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Data, Mewnwelediad a Chyflawniad Addysg

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £39,152

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002535 Dyddiad postio 23/07/2026 Dyddiad cau ceisiadau 06/08/2026 Cyflog £39,152 Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Education Data Insight and Performance Officer.pdf Swyddog Data, Mewnwelediad a Chyflawniad Addysg.pdf

Swyddog Data, Mewnwelediad a Chyflawniad Addysg

Disgrifiad Swydd
Ydych chi'n angerddol am ddefnyddio data i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifainc?

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dadansoddol i ymuno â'n carfan Addysg a Chynhwysiant fel Swyddog Data, Mewnwelediad a Chyflawniad Addysg. Dyma gyfle cyffrous i helpu i lunio penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws gwasanaethau addysg drwy ddatblygu data, dadansoddi ac adrodd ar gyflawniad o ansawdd uchel.

Gan weithio ar draws Addysg a Chynhwysiant a charfanau data corfforaethol, byddwch chi'n dadansoddi ystod eang o ddata addysg, yn datblygu dangosfyrddau ac adroddiadau, ac yn troi gwybodaeth gymhleth yn fewnwelediad ystyrlon sy'n cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau gweithredol a strategol.

Bydd eich gwaith yn helpu i nodi tueddiadau, risgiau a chyfleoedd ar draws meysydd allweddol gan gynnwys mynychu'r ysgol, cynhwysiant, anghenion dysgu ychwanegol, dysgwyr agored i niwed a chyflawniad ysgol, gan helpu i wella deilliannau i blant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd â sgiliau dadansoddol cryf, profiad o weithio gyda setiau data cymhleth, a'r gallu i gyfleu canfyddiadau'n glir i wahanol gynulleidfaoedd. Mae profiad o baratoi adroddiadau a dangosfyrddau yn hanfodol, gyda gwybodaeth am Microsoft Power BI yn fantais.

Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol cysylltwch ag Antonia Thomas, Rheolwr Cyflawniad a Gwella Systemau Addysg drwy e-bost - antonia.z.thomas@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal - Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.