MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £18,959 - £21,238 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Cyfryngau Creadigol 0.8

Coleg Sir Gar

Cyflog: £18,959 - £21,238 / blwyddyn

Technegydd Cyfryngau Creadigol 0.8
Application Deadline: 3 August 2026

Department: Diwydiannau Creadigol

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Head of Curriculum

Compensation: £18,959 - £21,238 / blwyddyn

DescriptionMae Cyfadran y Celfyddydau Creadigol a Choginiol, Gwyddor Anifeiliaid, Modurol a Thechnoleg yng Ngholeg Ceredigion yn awyddus i benodi Technegydd Cyfryngau Creadigol brwdfrydig, arloesol a blaengar i gefnogi cyflwyno darpariaeth Cyfryngau a Chelf ar ein Campws yn Aberystwyth.

Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â sgiliau technegol sydd â brwdfrydedd dros gyfryngau creadigol a dull rhagweithiol o ddatrys problemau. Gan weithio'n agos gyda staff a dysgwyr, byddwch yn darparu cefnogaeth dechnegol ar draws ystod o weithgareddau cyfryngau, gan sicrhau bod cyfarpar, meddalwedd ac adnoddau yn cael eu cynnal a'u cadw ac yn barod ar gyfer addysgu a dysgu.

Fel Technegydd Cyfryngau Creadigol, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gynhyrchu cyfryngau ymarferol trwy ymgymryd â phrosesau ffilmio, cipio, golygu ac allgludo fideo. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda defnyddio, cynnal a chadw a rheoli cyfarpar a chyfleusterau cyfryngau, gan helpu i greu amgylchedd dysgu effeithiol i fyfyrwyr.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • Darparu cefnogaeth i'r timau Cyfryngau Creadigol a Chelf i gynorthwyo gyda rheoli, cynnal a chadw a diogelwch cyfarpar clyweledol. Darparu cyngor, arweiniad a chymorth ar faterion caledwedd a meddalwedd a godir gan staff a dysgwyr. Nodi a thrwsio namau meddalwedd a chaledwedd yn gyflym ac yn effeithlon gyda chymorth canolog lle bo angen.
  • Ymgymryd â gosod a ffurfweddu pob caledwedd cyfrifiadurol newydd mewn perthynas â'ch maes cyfrifoldeb er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu i'r safon ansawdd uchaf
  • Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch
  • Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs
  • Cymryd rhan mewn parhau i ddysgu am holl gynhyrchion a gwasanaethau Apple i sicrhau y darperir y lefel uchaf o gyngor ac arweiniad.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf (Safon Uwch /Diploma Cenedlaethol BTEC) neu 3 blynedd o brofiad diwydiannol mewn maes cysylltiedig
  • TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o weithio gyda thechnoleg Apple
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r cyfarpar canlynol: Camerâu digidol ar gyfer lluniau llonydd a fideo, meddalwedd golygu ac animeiddio
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Y gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol:
  • BA Anrh/HNC/HND mewn maes cysylltiedig
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol ym maes Addysg Bellach ac Addysg Uwch
  • Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg ac ymgymryd â hyfforddiant priodol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein