MANYLION.
  • Lleoliad: Rhadyr,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £6,0698 - £6,740
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Pontio ac Adolygu

Coleg Gwent

Cyflog: £6,0698 - £6,740

Swyddog Pontio ac Adolygu
Swydd ddisgrifiad
7 awr yr wythnos

Cyfnod Penodol - 31/08/27

Rydym yn dymuno penodi person deinamig ac uchel ei gymhelliant i helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i drosglwyddo i leoliad AB ac i ddarparu cyfleoedd i adolygu eu cymorth trwy ddefnyddio arfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad blaenorol o fynychu adolygiadau blynyddol, ysgrifennu CDU a threfnu ymweliadau pontio ar gyfer pobl ifanc

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n agos gyda'r ALSCos a gweinyddwyr ADY yn ogystal â thimau campws i sicrhau bod y dysgwyr yn cael pob cyfle i'w helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i gael hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
  • Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:

  • Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
  • Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.

Dyddiad cau: 29/07/26

Dyddiad y cyfweliadau: 06/08/26