MANYLION.
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £14,913 - £17,850 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Anogwr Gwaith (Llwybr 4 Sgiliau Byw’n Annibynnol)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £14,913 - £17,850 / blwyddyn

Anogwr Gwaith (Llwybr 4 Sgiliau Byw'n Annibynnol)
Application Deadline: 19 August 2026

Department: Iechyd, Gofal, Sylfaen a Mynediad

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Rhydaman

Reporting To: Pennaeth Sgiliau Byw'n Annibynnol, Dechrau Newydd a Sylfaen

Compensation: £14,913 - £17,850 / blwyddyn

DescriptionMae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol ac arloesol chwarae rôl bwysig yn natblygiad darpariaeth Llwybr 4 o ddydd i ddydd yng Ngholeg Sir Gâr trwy gefnogi a datblygu interniaid i ddiwallu anghenion ein cyflogwyr lleol.

Bydd yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon yn golygu cydweithio helaeth ag ystod eang o randdeiliaid. Mae natur y gwasanaethau sy'n gysylltiedig yn debygol o newid dros amser, gan adlewyrchu anghenion amrywiol dysgwyr a chyfleoedd newydd wrth iddynt godi. Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio gyda'r tîm Sgiliau Byw'n Annibynnol ehangach ac fe fydd yn chwaraewr allweddol yn natblygiad a gweithrediad darpariaeth Llwybr 4 yng Ngholeg Sir Gâr.

Lleolir y swydd ar Gampws Rhydaman, ond bydd yn golygu teithio i weithio ochr yn ochr ag interniaid yn eu gwaith bob dydd.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Weithio gydag interniaid gan ddefnyddio dulliau asesu arbenigol, nodi cyrchnodau cysylltiedig â gwaith, dewisiadau swyddi, rhwystrau i gyflogaeth ac anghenion cymorth
  • Datblygu dysgwyr mewn gweithgareddau cyn-gyflogaeth
  • Cefnogi targedau dysgwyr unigol o fewn cwricwlwm heb ei achredu, gan gynnwys elfennau achrededig os yw hyn yn cefnogi cynnydd dysgwyr
  • Cynorthwyo gyda nodi cyfleoedd gwaith ar gyfer interniaid
  • Cysylltu â chyflogwyr a thrafod treialon gwaith, lleoliadau gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli cynaliadwy
  • Monitro a chofnodi cynnydd dysgwyr yn erbyn targedau ac ychwanegu dyletswyddau neu dasgau pellach i drefn ddyddiol/wythnosol yr intern i wella dysgu a hunanddatblygiad
  • Creu dadansoddiad anghenion i'r interniaid ar gyfer bod yn barod ar gyfer lleoliad
  • Mentora interniaid trwy gysylltu'n rheolaidd â'r cyflogwr
  • Hwyluso ymglymiad teuluol trwy e-byst, trwy ffonio ac wyneb yn wyneb
  • Cynorthwyo interniaid gyda chynllunio trefniadau teithio i'r gwaith
  • Cwblhau'r holl waith papur Asesu Risg angenrheidiol
  • Cwblhau'r hyfforddiant perthnasol a phrosesau'n gysylltiedig â lleoliadau interniaid
  • Sicrhau bod interniaid yn cwblhau'r hyfforddiant perthnasol a phrosesau'n gysylltiedig â'u lleoliad
  • Sicrhau bod interniaid yn cael eu cefnogi bob amser yn eu lleoliad gwaith
  • Hyrwyddo buddion recriwtio gweithlu amrywiol i gyflogwyr
  • Sicrhau bod manylion unigol dysgwyr yn cael eu cadw'n gyfredol a chynnal cofnodion o gynnydd dysgwyr, yn unol â pholisi GDPR y coleg

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster sy'n cefnogi ymarferwyr cyflogaeth neu gyfwerth
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
  • Dealltwriaeth o faterion perthnasol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
  • Gweithio'n effeithiol gyda dysgwyr ag ADY
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
  • Y gallu i arddangos hyder a sefydlu perthnasoedd cadarnhaol
  • Y gallu i deithio yn ôl yr angen yn y rôl

Dymunol:

  • Profiad o olrhain a monitro
  • Profiad o ofal bugeiliol dysgwyr

Yr Iaith Gymraeg:

  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein