MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £23,517.20 - £36,352.40
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23,517.20 - £36,352.40
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...Teitl y Swydd: Darlithydd Chwaraeon
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Rhan-amser, 25.9 awr yr wythnos (0.7 FTE), Parhaol
Pro Rata Gyflog: M1 £23,517.20 - UP3 £36,352.40
Mae Coleg Cambria yn chwilio am unigolyn angerddol ac ymrwymedig i ymuno a'n tîm fel Darlithydd Chwaraeon llawn amser. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr a gweithwyr chwaraeon proffesiynol. Mae'r swydd barhaol hon yn cynnig cyfle cyffrous i gael effaith sylweddol ar ddatblygiad a llwyddiant ein myfyrwyr.
Fel Darlithydd Chwaraeon, eich prif gyfrifoldeb fydd darparu profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i'n dysgwyr lefel 2, lefel 3, a chyswllt ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n ymwneud â chwaraeon. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu gwersi diddorol, darlithoedd, a sesiynau ymarferol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol ein dysgwyr.
Yn y swydd hon, byddwch yn darparu arweiniad, cefnogaeth, ac adborth adeiladol i fyfyrwyr, gan feithrin eu twf a'u cynnydd yn eu hastudiaethau chwaraeon. Byddwch yn asesu a gwerthuso perfformiad myfyrwyr trwy aseiniadau, prosiectau ac arholiadau yn hanfodol i'w helpu i gyflawni eu nodau. Bydd eich gallu i roi adborth prydlon a chywir yn allweddol i'w datblygiad.
Ar ben hynny, byddwch yn cyfrannu at ddylunio a datblygu deunyddiau ac adnoddau cwricwlwm. Bydd sicrhau bod y deunyddiau hyn yn gyfredol ac yn berthnasol i safonau diwydiant yn hanfodol. Bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a datblygiadau'r diwydiant yn caniatáu i chi ymgorffori'r wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf yn eich arferion addysgu, gan gyfoethogi'r profiad dysgu i'n myfyrwyr.
Byddai Cymhwyster Hyfforddi Pêl-droed yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.
Gofynion Hanfodol
- Mae'n rhaid bod gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Rhaid bod yn athro/athrawes cymwysedig gyda chymwysterau naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407
- Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun
Mae sgiliau Iaith y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fod â Lefel C2 yn y Gymraeg . Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd o fewn un lefel o'r safon ofynnol (C1) i wneud cais ar sail "angen dysgu", ar yr amod eu bod yn dangos ymrwymiad clir i gyflawni'r rhuglder angenrheidiol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r twf hwn drwy gynllun datblygu proffesiynol wedi'i deilwra. Er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith, bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi eich cymhwysedd, hyder ac addasrwydd presennol ar gyfer cynllun datblygu.
Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig