MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brecon,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Ystod Gyflog: ISR 5-9
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Ystod Gyflog: ISR 5-9
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy)Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy
(NA: 158)
Dirprwy Bennaeth
Ei angen/Ei hangen ar gyfer Tymor yr Haf 2026 neu'n fuan ar ôl hynny
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy yn dymuno penodi ymarferydd ac arweinydd rhagorol i ymuno â'n tîm creadigol, angerddol a gweithgar. Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Priordy wedi'i lleoli yng nghanol Aberhonddu, wrth ymyl Eglwys
Gadeiriol Aberhonddu. Rydym yn un o'r Ysgolion Hyfforddi Mantell yr Arbenigwr/Mantle of the Expert ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu profiadau dysgu sy'n adlewyrchu'r 12 egwyddor addysgegol y
Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn dilyn ein harolygiad llwyddiannus diweddar gan Estyn a'r Eglwys, rydym yn ymdrechu'n barhaus i lwyddo ac i wella.
Rydym yn ceisio penodi dirprwy bennaeth ymroddedig iawn i weithio ochr yn ochr â'r pennaeth i barhau i herio dulliau o addysgu a dysgu, meithrin a gofalu am bob disgybl a sicrhau ein bod yn aros yn driw i'n
gwerthoedd Cristnogol.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
Disgyblion hynod o dda o ran ymddygiad, cyfeillgar a hynod greadigol sy'n gallu 'meddwl y tu allan i'r bocs' a mwynhau gweithio gyda'i gilydd mewn timau cydweithredol. Tîm cyfeillgar, gofalgar a chefnogol o staff a Llywodraethwyr. Rhaglen eang o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Y cyfle i dyfu a datblygu eich sgiliau arwain fel rhan o uwch dîm arweinyddiaeth creadigol, uchelgeisiol a myfyriol.
Partneriaethau cryf gyda rhanddeiliaid
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ymarferydd dosbarth profiadol a rhagorol, sy'n gallu bod yn greadigol a chofleidio ystod eang o ddulliau addysgegol a dysgu seiliedig ar ymchwiliad.
Yn gwerthfawrogi'r plentyn yn ei gyfanrwydd ac yn addasu profiadau dysgu, cyfleoedd a dulliau i bob plentyn i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn.
Bydd gennych hanes profedig o wella ysgolion effeithiol ac yn gwbl ymrwymedig i arweinyddiaeth ysgol gyfan.
Yn deall, dathlu, gwerthfawrogi a chefnogi rôl yr Eglwys yng Nghymru yn ein hysgol.
Rydym yn annog darpar ymgeiswyr yn gynnes i ymweld â'r ysgol, gallwch gysylltu â'r Pennaeth, Miss Claire Pugh, ar 01874 623549 neu drwy e-bost pennaeth@priory.powys.sch.uk i drefnu ymweliad â'r ysgol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23 Chwefror 2026
Dyddiad llunio'r rhestr fer: dros dro: 2Mawrth 2026
Cyfweliadau: 10a 11 Mawrth 2026