MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: MPR/UPR
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPR/UPR
Ynglŷn â'r RôlMae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg i ddechrau ar y 1af o Fedi, 2026. Mae hon yn swydd llawn amser, parhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11 gyda'r posibilrwydd o ddysgu Lefel A Llenyddiaeth Saesneg.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss
Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae 851 o ddisgyblion ar ein cofrestr ac 83 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.
Gwybodaeth am yr Adran Saesneg Mae'r adran Saesneg yn un gartrefol a llwyddiannus. Addysgir y pwnc i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 a bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda chymhwyster TGAU yn y pwnc. Mae niferoedd iach yn dewis Saesneg Llenyddiaeth yn y chweched ac mae canlyniadau'r adran yn gyson dda. Dyma un o adrannau mwyaf yr ysgol. Mae 6 athro/wes arbenigol yn dysgu'r pwnc o dan arweiniad ardderchog pennaeth yr Adran, Ms Catherine Rogers. Mae 6 ystafell ddysgu braf yn yr Adran ynghyd a swyddfa a stordai ar gyfer yr Adran. Mae adnoddau TGCH penodol i'r adran yn ogystal a mynediad i adnoddau ysgol gyfan.
Ysgol Morgan Llwyd is a Welsh medium secondary school located in the city of Wrexham that serves a wide catchment area in Wrexham. The school opened its doors in 1964 with a small group of pupils, and since then, it has gone from strength to strength. In the year 2000, the school moved to a new location. We now have 763 pupils on roll and 90 attending our sixth form. Our pupils come from the city itself, the neighbouring villages and from rural areas in the Ceiriog Valley. Ysgol Morgan Llwyd is the only Welsh medium secondary school in the county and one of only two with a Sixth Form. We take pride in our tradition of our pupils' academic success as well as their successes in the school's extracurricular life. Our vision is to ensure that Ysgol Morgan Llwyd is a caring school that develops high-achieving and capable learners, in an environment where everybody is happy, safe, and eager to learn.
Information about the English Department The English Department is a dynamic and successful department. The subject is taught to all pupils in Key Stages 3 and 4 and every student leaves school with a GCSE qualification in the subject. The subject is popular among sixth form pupils and the results of the department are consistently good. The department has six members and is lead by Ms Catherine Rogers. In terms of facilities, the department has 6 spacious teaching rooms, storerooms, and an office. The department also has specific ICT resources and access to whole school resources.